#

Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau
Y Pwyllgor Deisebau | 19 Mawrth 2019
 Petitions Committee | 19 March 2019
 

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-866

Teitl y ddeiseb: Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Geiriad y ddeiseb:

Mae 44,000 o bobl yn y DU yn marw oherwydd sepsis bob blwyddyn. Bob 3.5 eiliad, mae rhywun yn y byd yn marw o sepsis.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis i leihau marwolaethau diangen a gwella canlyniadau i’r goroeswyr a'r holl bobl y mae’n effeithio arnynt.

Er cof am Chloe Christopher a’r holl bobl y mae sepsis wedi effeithio arnynt yng Nghymru.

 

Y cefndir

Cyffredinrwydd sepsis

Disgrifiwyd Sepsis fel un o'r afiechydon mwyaf cyffredin ond lleiaf cydnabyddedig yn y byd datblygedig a'r byd sy'n datblygu. Mae'n gyflwr a all beryglu bywyd, sy’n codi pan fydd ymateb y corff i haint yn anafu ei feinweoedd a'i organau ei hun. Os na chaiff sepsis ei adnabod yn gynnar a'i drin yn brydlon, gall arwain at fethiant organau lluosog a marwolaeth. Mae ymyrraeth gyflym â gwrthfiotigau a hylifau mewnwythiennol yn hanfodol er mwyn sicrhau'r siawns orau o oroesi.

Mae Llawlyfr Sepsis 2017-18 Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn nodi y byddai amcangyfrifon ceidwadol yn awgrymu bod o leiaf 250,000 o achosion o sepsis yn y DU bob blwyddyn, gydag o leiaf 46,000 o farwolaethau a chost uniongyrchol i'r GIG o o leiaf £1.5 biliwn.  Ym mis Gorffennaf 2018, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod oddeutu 2,200 o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru o ganlyniad i sepsis[1].

 

 

Mae Sepsis yn hawlio mwy o fywydau na chanser y fron, y coluddyn a'r prostad gyda’i gilydd, ac mae'n un o brif achosion marwolaethau mamol yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd.

Mae achosion o sepsis yn y DU yn debygol o gael eu hamcangyfrif yn rhy isel. Mewn adroddiad yn 2015 gan yr Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ganlyniadau a Marwolaethau Cleifion (NCEPOD) er enghraifft, canfuwyd, os oedd cleifion â sepsis wedi marw, mai dim ond mewn 40 y cant o achosion y cofnodwyd hynny ar y dystysgrif marwolaeth. Mae’r achosion o sepsis a gofnodir yn cynyddu oddeutu 11.5 y cant bob blwyddyn. Efallai bod hyn yn rhannol oherwydd mwy o ymwybyddiaeth a chofnodi mwy dibynadwy, ond mae'r boblogaeth sy'n heneiddio a mwy o ddefnydd o ymyriadau goresgynnol hefyd yn ffactorau arwyddocaol. Gall ymwrthedd i gyffuriau chwarae rhan hefyd.

Bu aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn trafod sepsis gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod sesiwn graffu gyffredinol ar 5 Gorffennaf 2018.  Mewn gohebiaeth yn dilyn y sesiwn, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y Pwyllgor nad oes data ar gael ar hyn o bryd am nifer y bobl sydd wedi goroesi sepsis ond sy’n profi ansawdd bywyd salach o ganlyniad. Fodd bynnag, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgymryd â gwaith i ddatblygu cofrestrfa sepsis yng Nghymru, a dywed y dylai arwain at well dealltwriaeth o sepsis a gofal sepsis yng Nghymru.       

Adnabod a rheoli sepsis

Y prif gyfrwng a fu ar gyfer newid yn GIG Cymru yw cyfranogiad gweithredol yr holl Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd mewn rhwydwaith pwrpasol a elwir yn RRAILS – Set Ddysgu Ymateb Cyflym i Salwch Acíwt, dan arweiniad y rhaglen wella 1000 o Fywydau. Ffurfiwyd grŵp llywio RRAILS yn 2011 gyda'r bwriad o gyflwyno'r Sgôr Rhybudd Cynnar Cenedlaethol (NEWS), sgrinio ar gyfer sepsis a gweithredu'r bwndel Gofal Sepsis 6. 

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod y sesiwn graffu gyda'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ym mis Gorffennaf 2018[2] fod 80 y cant o bobl sy'n mynd i'r ysbyty ac sy’n dod yn septig yn dod o ofal sylfaenol a chymunedol. Mae meddygon teulu a gwasanaethau cyn ysbyty eraill yn rhoi cyfleoedd allweddol i adnabod a thrin sepsis yn brydlon. Mae’r rhaglen RRAILS yn cael ei hehangu i ganolbwyntio ar adnabod sepsis yn gynnar mewn lleoliadau y tu allan i ysbytai gan gynnwys meddygfeydd, gwasanaeth ambiwlans Cymru, ysbytai cymuned a chartrefi gofal. Yn ystod sesiwn graffu'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, awgrymodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod lle i ddatblygu gwell dealltwriaeth o arwyddion cynnar dirywiad o sepsis ymhlith nyrsys mewn cartrefi gofal, er enghraifft, a staff eraill mewn lleoliadau gofal sylfaenol / cymunedol.

Ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus sepsis

Yn ystod dadl fer yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Ebrill 2018, cafwyd galwadau am ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus sepsis yng Nghymru. Gwrthwynebwyd hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a ddywedodd fod diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu y byddai hyn yn gwella canlyniadau i gleifion.  

Yn ystod ei sesiwn graffu gyda'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 5 Gorffennaf 2018, cyfeiriodd Iechyd Cyhoeddus Cymru at ymgyrch ymwybyddiaeth sepsis Lloegr 2016, ond awgrymodd fod tystiolaeth o effeithiolrwydd yr ymgyrch yn brin.

 

Gohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb

Mae gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol dyddiedig 15 Chwefror 2019 yn cyfeirio at y ffaith bod Cymru yn cael ei hystyried i fod yn arwain y ffordd yn y DU o ran sicrhau bod adnabod a thrin sepsis yn brif flaenoriaeth o fewn y GIG.  Mae'r Gweinidog yn tynnu sylw at y ffaith bod GIG Cymru, ym mis Mai 2016, wedi cael cydnabyddiaeth am ei gyfraniad i ymwybyddiaeth o sepsis drwy ennill y Wobr Sepsis Fyd-eang yn y categori ''Llywodraethau ac Awdurdodau Gofal Iechyd '

Mewn perthynas ag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol, dywed y Gweinidog fod y rhain yn gymhleth a’i bod yn anodd dangos tystiolaeth o effeithiolrwydd.  Mae’r Gweinidog yn mynd yn ei flaen i ddweud:

I recognise the importance of raising public awareness of the dangers of sepsis but it is also important to strike the right balance with messages about the appropriate use of antibiotics and the risk of creating public anxiety. 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 

 



Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 5 Gorffennaf 2018, para 134

Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 5 Gorffennaf 2018, para 138